Welcome to the Fundraising Standards Board in Wales
Bydd y Bwrdd Safonau Codi Arian, y corff cyntaf o’i fath yn y byd, yn ymdrin â chwynion y cyhoedd am sut mae ei aelodau’n codi arian, yn ogystal â chynnig ‘nod tawelwch meddwl’ i’r cyhoedd chwilio amdano wrth roi arian i elusennau yn y dyfodol
Mae mwy na dau gant o elusennau, gan gynnwys wyth o aelodau yng Nghymru, eisoes wedi ymuno â’r cynllun. Mae ymuno’n wirfoddol, ac wrth wneud hynny mae'r elusennau wedi cytuno i lynu wrth set gaeth o godau ac Addewid Codi Arian sy'n eu hymrwymo i drin y cyhoedd gyda pharch, yn deg, yn onest ac yn glir ym mhob un o'u gweithgareddau codi arian. Rhaid iddynt hefyd sefydlu proses annibynnol, cadarn a thryloyw ar gyfer cwynion. Bydd y cyhoedd yn gallu dweud a yw mudiad yn aelod oherwydd bydd logo’r Bwrdd Safonau Codi Arian (sef tic) ar eu deunydd codi arian.
Meddai Jon Scourse, Prif Weithredwr y Bwrdd Safonau Codi Arian am y lansiad: “Mae hon yn foment hanesyddol. Am y tro cyntaf, mae corff annibynnol y gallwch fynd ato os ydych chi’n anhapus am y ffordd y mae elusen yn codi arian. Rydyn ni yma i’ch helpu i roi’n hyderus, felly y tro nesaf i chi roi arian mewn tun, noddi rhywun i redeg marathon neu dderbyn postiad gan elusen, chwiliwch am y tic – hwnnw yw eich nod tawelwch meddwl.”
Rydym yn cynrychioli ymrwymiad pwysig gan elusennau i sicrhau y gall y cyhoedd barhau i roi’n hyderus i sector a gododd £8.9 biliwn y llynedd am ei waith da
Ychwanegodd Jane Tomlinson, ymgyrchydd dros elusennau canser a sefydlydd Apêl Jane: “Rydw i wedi bod ar y ddwy ochr – yn cefnogi elusen fel aelod o’r cyhoedd, ac yn awr yn rhedeg fy apêl fy hun. Mae’n rhaid i unrhyw beth sy’n annog safonau uchel mewn codi arian fod yn dda i’r ddwy ochr, ond y bobl a’r achosion y mae’r elusennau’n ymdrechu drostynt sydd mewn sefyllfa i elwa fwyaf. Rydyn ni am ymuno, a gobeithiwn y bydd nifer o elusennau eraill yn gwneud hynny hefyd”
Cysylltwch â ni i ymuno â’r cynllun neu i gwyno am aelod drwy ffonio 0845 402 5442.
Gallwch lwytho'r Addewid Codi Arian yn Gymraeg ar fformat pdf